Gwasanaethau
Teithiau Seiclo Dydd
Ar hyn o bryd rydym yn arwain teithiau ar ddydd Sadwrn a hefyd ar ddydd Mercher o Fai 2019.
Bydd y rhain yn mynd i nifer o wahanol leoliadau ac maent o wahanol hyd – mae’n bosib bydd ein dewis o daith yn ddibynnol ar y tywydd.
Ni fydd y teithiau’n heriol – rydym yn awyddus i’n cyd-deithwyr fwynhau’r profiad a bod yn gyfforddus.
Bydd y teithiau’n rhai hamddenol. Byddwn yn teithio rhwng 10–25 milltir gyda digon o fannau diddorol a golygfeydd a digon o gyfle i gael saib i’w mwynhau.
Bydd y teithiau’n rhai cylchol, felly byddant yn cychwyn a gorffen yn yr un man, ac yn dilyn lonydd distaw a lonydd glas ar y cyfan.
Mae’n rhaid i chi fod yn 16+ oed a digon hyderus a medrus i reidio mewn grŵp
( Yn ystod y cyfyngiad i un cartref, rydym yn hapus i deithio efo plant a'u rhieni)–Bydd ein cyflymder yn ddibynnol ar allu’r grŵp i seiclo gyda’i gilydd.
Edrychwch ar ein Calendr cyfredol neu ein tudalen Facebook a chyfrif Twitter
Dewch â’ch beic eich hun neu llogwch feic gennym.
Cysylltwch â ni neu cwblhewch ein ffurflen llogi er mwyn cadarnhau eich lle
Taith seiclo dan arweiniad diwrnod o hyd, yn cynnwys llogi beic:
£55 y pen,
£70 am feic trydan. Darperir helmedau gyda’ch beic llog ar gyfer eich diogelwch.
Dewch â’ch beic eich hunan (a helmed):
£40 y diwrnod
Yn anffodus, oherwydd coronafirws, nid oes gennym feics ar gael i’w llogi'r tymor hwn, dewch â'ch beic eich hun yn unig neu cysylltwch â Llanberis Bike Hire sydd am geisio helpu ni! llanberisbikehire.co.uk 07776 051559
Pe tasech eisio taith beic mwy heriol na’r rhai ar ein Calendr, mae modd i ni ddyfeisio rhai i gwrdd â’ch anghenion. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion, ond cofiwch os gwelwch yn dda, y bydd angen rhagor o rybudd i ddyfeisio taith i’ch herio ac i’w reidio i’w profi o flaen llaw.
Diwrnod o Seiclo gyda llogi beic*
Heading 1
