Taith Beic Ynys Môn Hynafol
Ymunwch â ni am ddiwrnod o seiclo dan arweiniad ar hyd lonydd distaw gan ddarganfod hanes a chynhanes Ynys Môn yn ogystal â mwynhau’r bywyd gwyllt.
Mae’r daith yma yn ein harwain at Fryn Celli Ddu, un o safleoedd cynhanesyddol mwyaf eiconig yr Ynys. Mae gennym hefyd gyfle i ymweld â phedwar safle arall ac i fwynhau golygfeydd diddorol a hardd.
14 milltir efo ychydig gerdded wrth ymweld â’r safleoedd ar hyd y daith. Mae caffi ar cychwyn ( a diwedd) ein taith, ond well dod â phecyn bwyd efo chi ar gyfer cinio!
Dewch â’ch beic eich hun neu llogwch feic gennym.
Cysylltwch â ni neu cwblhewch ein ffurflen llogi er mwyn cadarnhau eich lle
Dyddiadau:
(Yn ddibynnol ar unrhyw gyfyngiadau clo priodol)
Sadwrn 17 Ebrill (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 1 Mai (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 15 Mai (drwy Airbnb Experiences)
Mercher 9 Mehefin (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 26 Mehefin (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 17 Gorffennaf (drwy Airbnb Experiences)
Mercher 8 Medi (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 23 Hydref (drwy Airbnb Experiences)
Cysylltwch i drefnu taith arbennig ar gyfer eich parti.
Taith seiclo dan arweiniad diwrnod o hyd, yn cynnwys llogi beic:
Disgwilir y bydd beiciau hurio ar gael erbyn y Gwanwyn- cysylltwch i drafod yn hyn sydd yn bosib ar y o bryd, dewch â'ch beic eich hun neu cysylltwch â ni.
£55 y pen,
£70 am feic trydan. Darperir helmedau gyda’ch beic llog ar gyfer eich diogelwch.
Dewch â’ch beic eich hunan (a helmed):
£40 y diwrnod