Calendr Teithiau Beic

Biwmares- Penmon
Ar y daith yma, rydym yn mynd tu cefn i Fiwmares am olygfa anghyffredin o gastell Edward I, cyn darganfod rhai o gyfrinachau cornel diddorol a hanesyddol de-ddwyrain yr Ynys.
o £40

Ynys Llanddwyn
Beth am ymweld â Llanddwyn, a enwyd ar ôl nawddsant cariadon Cymru? Rydym yn teithio drwy goedwig Niwbwrch tuag at y môr cyn croesi’r traeth at yr ynys.
​
o £40

Ynys Môn Hynafol
​
​Rydym yn seiclo i Fryn Celli Ddu, un o safleoedd cynhanesyddol mwyaf eiconig Môn, cyn ymweld â phedwar safle arall, a seiclo yn ôl at y man cychwyn ar hyd glannau’r Fenai.
o £40

Ynys Cwyfan
Yn rhan o’r tir mawr ar un adeg, mae’r Eglwys yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer priodasau o bryd i’w gilydd, ac yn ymddangos mewn sawl llun a morlun dramatig.
​
​
o £40

Canoldir hanesyddol ynys Môn
Bellach yn bentref distaw, erstalwm, roedd Llannerch-y-Medd yn ganolfan brysur i’r Ynys. Rydym yn cyfarfod yn hen orsaf rheilffordd y pentref ac yn seiclo tua Llanfechell. Ar y ffordd, rydym yn mynd heibio hen eglwysi, meini hirion a cholomendy, ac yn rhannu straeon am gymeriadau diddorol o’r gorffennol
o £40

Ynys Cybi Hynafol
Ymunwch â ni ar daith seiclo dan arweiniad i rai o safleoedd hynafol Ynys Cybi. Cytiau Gwyddelod, meini hirion a siambrau claddu, yn ogystal â morluniau godidog; mae digon i’w ryfeddu arno ar y daith yma.
​
​
o £40