
Taith Beic Biwmares- Penmon
Ymunwch â ni am ddiwrnod o seiclo dan arweiniad ar hyd lonydd distaw gan ddarganfod hanes a chynhanes Ynys Môn yn ogystal â mwynhau’r bywyd gwyllt.
Ar y daith yma, rydym yn mynd tu cefn i Fiwmares am olygfa anghyffredin o gastell Edward I, cyn darganfod rhai o gyfrinachau cornel diddorol a hanesyddol de-ddwyrain yr Ynys.
Mae hon yn daith eithaf byr o 11.5 milltir – gydag ychydig o fryniau bychain.
Mae hyn oherwydd bod cymaint o lefydd diddorol i’w harchwilio ar hyd y daith! Ymysg y goreuon mae adfeilion y priordy, a chastell arall, yn ogystal â chyrraedd Trwyn Du, y goleudy a’r Pilot House Café.
Dewch â’ch beic eich hun neu llogwch feic gennym.
Cysylltwch â ni neu cwblhewch ein ffurflen llogi er mwyn cadarnhau eich lle
Dyddiadau:
(Yn unol ag unrhyw gyfyngiadau clo priodol)
Sadwrn 16 Ionawr (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 30 Ionawr (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 6 Chwefror (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 13 Chwefror Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 20 Chwefror Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 6 Mawrth Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 13 Mawrth Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion..
Sadwrn 20 Mawrth Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Gwener 2 Ebrill (Dydd Gwener y Groglith) Rhan o'n Pecyn Pasg- manylion i ddilyn, ond ar gael fel taith unigol yn ogystal,
Mercher 28 Ebrill
Mercher 26 Mai (drwy Airbnb Experiences)
Mercher16 Mehefin
Mercher 7 Gorffennaf (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 24 Gorffennaf
Sadwrn 31 Gorffennaf
Mercher 11 Awst (drwy Airbnb Experiences)
Sadwrn 11 Medi
Mercher 20 Hydref
Mercher 27 Hydref
Sadwrn 6 Tachwedd Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 20 Tachwedd Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 27 Tachwedd Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 4 Rhagfyr Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 11 Rhagfyr .Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Sadwrn 18 Rhagfyr .Pedlo i Benmon am Bizza! - cysylltwch am fanylion.
Neu cysylltwch i drefnu taith arbennig ar gyfer eich parti!
Taith seiclo dan arweiniad diwrnod o hyd, yn cynnwys llogi beic:(Beiciau i'w llogi ddim ar gael at hyn o bryd)
£55 y pen,
£70 am feic trydan. Darperir helmedau gyda’ch beic llog ar gyfer eich diogelwch.
Dewch â’ch beic eich hunan (a helmed):
£40 y diwrnod.
Disgwilir y bydd beiciau hurio ar gael erbyn y Gwanwyn- cysylltwch i drafod yn hyn sydd yn bosib ar y o bryd, dewch â'ch beic eich hun neu cysylltwch â ni